Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-10-06

Newid meddwl? Ddim llawer

Felly mae Charles Clarke wedi newid ei feddwl ychydig am y dorsedd newydd o ogoneddu mewn gweithred derfysgol. Ond wrth gwrs fel real Llafur Newydd mae'n gwadu hynny. Ond yn yr erthygl dwi'n darllen hyn:
Mr Clarke said some people had found "difficulties in the wording we originally suggested" for the glorification offence in the new Terrorism Bill.
Ei chael hi'n anodd! Dwi ddim yn gwybod ar bwy mae'r bai am y datganiadau amwys yma - y gwleidyddion eu hunain neu ni'r etholwyr sydd am i'n glweidyddion i fod yn berffaith heb fyth fod yn anghywir na gorfod newid barn ar ddim. Ond dwi'n ofni nad oes gen i lawr o amynedd gyda Charles Clakre bellach. Mae e wedi dangos ei wir liwiau. Eled ar ôl y terfysgwyr go iawn yn hytrach na cheisio cyfyngu ar ryddid pawb arall.

A beth yw ymateb y Torïaid? Sefyll i fyny dros ryddid sy'n rhan mor annatod o'r ffordd o fyw Brydeinig mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn ei chanmol yr wythnos 'ma. Nid dyna ymateb David Davies y ceffyl blaen yn y ras am arweinyddiaeth y blaid honno. Mae e am weld diddymu y Ddeddf Hawliau Dynol yn gyfangwbl! Diolch am ddewis, diolch am ddemocratiaeth.

Tagiau Technorati: | | .