
Digwydd sylwi ar stori
newyddion o Dde Korea ei bod hi'n fwriad gan y llywodraeth i wneud Saesneg yn iaith swyddogol ar y cyd gyda Coreëg ym mharthau masnachu rhydd y wlad. Buasai hyn yn golygu yn yr ardaloedd penodol hynny yn Korea câi plant eu haddysg yn ddwyieithog a buasai holl gyhoeddiadau swyddogol llywodraethol yn ddwyieithog hefyd. Mae
Coreëg yn iaith nad yw'n perthyn i unrhyw iaith arall ac mae'n cael eu hysgrifennu gan ddefnyddio gwyddor a ddyfeisiwyd yn unswydd ar ei chyfer - a yw hi'n werth taflu'r traddodiad hyn'na i gyd o'r neilltu er mwyn cynnydd economaidd? Dwi'n y buasai rhai yn fodlon gwneud er mwyn ennill digon i fyw'n gyfforddus. Ond beth fydd yn digwydd wedyn?
Tagiau Technorati:
Iaith |
Coreëg |
Saesneg.