
Yn ei gyflwyniad fe nododd GHJ rai o nodweddion Iolo gan bwysleisio ei radicaliaeth. Fe esboniodd hefyd fod y gyfres o lyfrau am Iolo, un o'r ffigyrau mwyaf hynod yn ein hanes diwylliannol, yn cael eu cyhoeddi yn Saesneg er mwyn sicrhau cynulleidfa ryngwladol iddo yntau.
Yn bendant mae'n haeddu ei le ar y map diwylliannol Ewropeaidd ond oherwydd rhagfarn, anwybodaeth a gwerthoedd imperealaidd mwyafrifol mae'n cael ei anwybyddu gan ysgolheigion a ddylai wybod yn well. Gobeithio'n fawr y bydd hynny'n newid gyda chyhoeddi'r llyfrau hyn. Efallai y buasai'n neis cael un gyfrol Gymraeg yn crynhoi'r ymchwil ac yn gorffen y gwaith a ddechreuwyd gan G. J. Williams yr holl flynyddoedd yn ôl. Des i i adnabod Iolo pan roedd cyfaill imi yn gwneud ymchwil i'w weithgarwch geiriadurol a thrwy waith G. J. Williams, ac wedyn ar ôl symud i fyw i gyffiniau Bro Morgannwg am ryw bedair blynedd. Fe fues i'n teithio'r ardal yn ymweld â llefydd yn gysylltiedig gydag ef gan gynnwys ei blwyf genedigol, Trefflemin neu Flemingston.
Rhagor o luniau o'r lansiad.
Tagiau Technorati: Iolo Morganwg | Gorsedd Beirdd Ynys Prydain | Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd | Llyfrau.