Nos Wener fe fues i mewn noson o werthu llyfrau ac yfed gwin wedi'i drefnu gan gangen Aberystwyth a Phenparcau o Blaid Cymru er mwyn codi arian ar gyfer ein gweithgarwch yn lleol a thrwy'r sir. Dr MWR oedd wedi bod yn ddiwyd yn trefu'r cwbl gyda'i gofal arferol. Roedd hi wedi cael awdur llyfr y flwyddyn Martha, Jac a Sianco, sef Caryl Lewis i agor y noson. Fe ddaeth nifer ynghyd ac fe godwyd tipyn bach o arian. Ond y broblem i mi oedd dewis llyfrau i'w rhoi i ffwrdd er mwyn eu gwerthu ar y stondin. Dwi ddim yn gwybod sut mae pobol eraill yn gwneud hyn, ond i mi y mae gyda'r penderfyniad mwyaf anodd yn y byd. Dwi wastad yn rhoi llyfrau i ffwrdd dwi'n 'difaru gwneud yn union wedyn, ac yn cadw tunelli o lyfrau nad ydyw i byth yn eu darllen nac yn troi atynt, ond yn ofni y daw'r dydd y bydd yn rhaid imi wneud. Y peth synhwyrol i'w wneud fyddai rhoi'r llyfrau hynny a chadw'r rhai dwi'n gwybod y bydd eu hagnen arna i 'fory. Ond dyw bywyd ddim yn gweithio fel 'na. Diolch byth y bydd cyfle i brynu'r llyfrau hynny yn ôl mewn llai na thri mis yn Ffair Nadolig Plaid Cymru ar 3 Rhagfyr, jyst rhag ofn.
Rhagor o luniau o'r noson win a llyfrau.
Tagiau Technorati: Llyfrau | Plaid Cymru | Gwin.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.