Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-16

Ymhyfrydu mewn gweithred derfysgol

Dwi'n ofni y bydd yn rhaid imi ofyn ichi ddod gyda fi Mr Ifan, rydych chi wedi ymhyfrydu mewn gweithred derfysgol

Terfysg Beca
Er mwyn dathlu fod theguardian yn ei ffurf bapur wedi troi yn faint Berliner mae'r wefan yn rhoi mynediad am ddim i theguardiandigitaledition tan 26 Medi 2005. Yn y digital edition heddiw mae 'na stori am y mesur gwrth-derfystgaeth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei gyflwyno i'r senedd, a'r ffaith eu bod nhw'n bwriadu gwneud ymhyfrydu mewn gweithredoedd terfysgol yn drosedd. O'i ddarllen fe wnes i wirio'r dyddiad oherwydd fod y cyfan y swnio fel Ffŵl Ebrill yn hytrach na pholisi Llywodraeth gall. O dan y teitl 'Liberty warns loose talk will become a criminal act' darllenwn:
The government's proposed anti-terrorism laws published yesterday are so widely drawn that anyone who "glorifies, exalts or celebrates" any terrorist act committed over the past 20 years could face a sentence of up to five years in prison.

But the small print of the draft terrorism bill published yesterday shows that the home secretary is preparing to go even further and draw up a list of historical terrorist acts which if "glorified" could mean a criminal offence being committed.

A Home Office spokeswoman said 9/11 was such an example; it would become a "listed event", the appropriate ban lasting longer than 20 years. However, the 1916 Irish Easter Rising would be exempt.

Shami Chakrabarti, the director of Liberty, said the offence of "glorification" was so broad it meant the home secretary was now acquiring powers to determine which historical figures were terrorists and which freedom fighters.
Dwi'n cael yr holl beth yn chwerthinllyd. Os dwi wedi deall y peth yn iawn fe fydd hi'n anghyfreithlon ymhyfrydu mewn unrhyw weithredu derfysgol o fewn yr ugain mlynedd diwethaf. Wedyn fe fydd 'na restr arbennig yn cael ei chadw o ddigwyddiadau sy'n hŷn na ugain mlwydd oed na fydd hawl ymhyfrydu ynddynt chwaith. A dyna wnaeth ddechrau gwneud imi feddwl.

Cefais i fy magu ym Mynchalog-ddu, cartref annibyniaeth barn a'n harwr ni yn blant oedd Twm Carnabwth arweinydd Merched Beca. Roeddem ni'n dysgu amdano yn yr ysgol yn ail-fyw ei weithredoedd trefysgol mewn caneuon actol a phantomeimiau. Pob tro yr oeddem ceisio arwr i'w efelychu Twm oedd hwnnw - y dyn a wnaeth ryddhau ffyrdd y wlad i bobol gyffredin eu defnyddio. Yr un bobl fu'n ymosod ar dlotai ar hyd a lled y wlad oherwydd sut roedden nhw'n trin y tlawd. Dyma'r rhai oedd yn bygwth landlordiad anghyfiawn ac yn dial ar fradwyr i'w hachos. Dyma ichi fudiad trefysgol na ddylid dysgu amdano mewn unrhyw ysgol na sôn ei arweinwyr - Dai'r Cantwr, Sioni Sgubor Fawr na Thwm Carnabwth - o fewn clyw neb o dan deunaw mlwydd oed. A fydd Mr Clarke yn rhestru'r digwyddiadau hyn o dan y mesurau y mae am eu gweld yn ddeddf?

Os dyna fydd yn digwydd, yna bydd yn rhaid i Tecwyn Ifan ail-ysgrifennu ein holl ganeuon, bydd yn rhaid dechrau banio llyfrau, bydd yn rhaid hyd yn oed dad-gladdu'r awduron a fu mor ffôl ag awgrymu fod unrhyw gyfiawnder ar ei ochr a'u gadael nhw i'r brain! A thruain o'r plant ysgol hynny a fu'n canu ar Ysbryd Rebecca, does wybod beth fydd Charles Clarke yn ei wneud iddyn nhw!

Mae'n debyg y bydd hi'n anghyfreithlon hyd yn oed defnyddio enw Owain G**n D*r! Dewch i f'ôl i Mr Clarke - mae popeth yn iawn, dwi'n rhoi fy hun i fyny heb ymdrech, mae fy mreichiau y fyny'n barod am y cyffs, a dwi ddim yn gwisgo cot fawr.

I wybod mwy am derfysg Rebecca.

Beth sy gan Liberty i'w ddweud?

Tagiau Technorati: | | .