Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-18

Cynhadledd ynteu gynllwyn?

Dafydd Iwan yn annerch cynhadledd Plaid Cymru 2005-09-17Yn anffodus dim ond ar y Sadwrn yr oeddwn i'n medru mynd i gynhadledd Plaid Cymru eleni, er ei bod yn cael ei chynnal yn Aberystwyth. Roedd nifer o resymau dros hynny, ond o leia fe gefais un diwrnod yno. Roeddwn i braidd yn ofnus o fynd i ddweud y gwir oherwydd o ddarllen a gwrando yr hyn oedd wedi bod yn y cyfryngau dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf roeddwn i'n ofni y buaswn yn boddi yn y gwaed a fyddai'n cael ei dywallt ar hyd coridorau Canolfan y Celfyddydau wrth i'r ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth roi'r cyllyll yng nghefnau'i gilydd. Mae'n ddigon posib fy mod i'n naif ond mae'n rhaid fod y staff cynnal a chadw wedi clirio'r gwaed i gyd cyn imi gyrraedd.

Yn naturiol roedd 'na deimlad o siom yno am nad oeddem wedi llwyddo i'r graddau yr oeddem wedi ei obeithio yn etholiad cyffredinol fis Mai diwethaf. Ac roedd hynny'n mynd law yn llaw â'r rhywstredigaeth yr ydym wastad yn ei brofi wrth geisio gwneud ein marc ar y cyfryngau - plaid fechan a thlawd yw Plaid Cymru ac mae hynny'n dod i'r amlwg bob amser yn y mae hwn. Mae'r pleidiau mawr Prydeinig a Llundain-ganolig yn feistriaid ar y gelf o droelli'r newyddion wrth fedru sicrhau eu bod yn defnyddio'r technegau diweddaraf a chael y goreuon yn y gwaith drwy'r byd i'w cynghori. Ond dwi'n credu fod cwyno am y peth drwy'r amser yn wrthweithiol; rhaid cydnabod y sefyllfa honno am yr hyn ydyw a cheisio ffordd rad i'w goddiweddyd.

Cynllwynio ar y llwyfan!Dwi ddim am swnio fel troellwr newyddion fy hun, ond y gwir oedd er bod 'na deimlad o siom yno, roedd 'na hefyd ysbryd da heb y cecru chwerw fel y buasai rhai yn disgwyl o ddarllen y papurau. Ac mae'n rhaid dweud roedd hi'n amlwg fod y siom gyda'n canlyniadau ni yn ddim o'i gymharu â'r siom fwyaf nad oedd Tony Blair wedi gorfod talu'r pris gwleidyddol am ei gelwyddau adeg rhyfel Irác, ac nad oedd wedi gorfod ateb am fod yn rhan o ryfel anghyfreithlon. Er nad oeddwn i yno, fe glywais i fod gŵr dewr hwnnw, Reg Keays, yng nginio'r gynhadledd nos Wener a'i fod wedi cael derbyniad twymgalon iawn gan y cynhadleddwyr. Nid yw achos y rhyfel yn mynd i ddiflannu nes bod cyfiawnder yn cael ei wneud - dylai hynny ynddo'i hun ein sbarduno i weithredu.

Ond does dim mwg heb dân, a does dim ffordd i osgoi cwestiwn yr aweinyddiaeth. Mae'n amlwg fod y rhan fwyaf yn credu fod angen gwneud rhywbeth am y peth, ond dwi'n cael y teimlad hefyd fod y rhan fwyaf yn holi 'Beth?' Dwi'n gobeithio fod cyfnod y gynhadledd lle'r oedd pawb yno o dan yr unto, wedi bod o ryw help i ddatrys y cwestiwn hwnnw hefyd. Os nad oedd, yna fe fydd hi'n rhy hwyr cyn bo hir i wneud dim o bwys cyn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2007.

Rhagor o luniau o gynhadledd Plaid Cymru.

Tagiau Technorati: .