Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-15

Pen blwydd hapus RP!

Pen blwydd hapus RP!

Cinio 2005-09-14Amser cinio ddoe fe fues i ym mwyty Treehouse am y tro cyntaf ers rhyw bum mlynedd pan ges i'r pryd bwyd gwaethaf dwi erioed wedi'i gael yn Aberystwyth. Roedd pethau'n wahanol y tro hyn a dwi'n siŵr o fynd 'nôl yn gynt. Cefais innau bryd blasus iawn o spaghetti gyda risols, a hynny mewn saws tomato oedd cyn goched â'i flas cryf yn llawn o haul yr haf sy'n prysur troi'n atgof. Roeddwn i wedi mynd mas am fwyd am fod cydweithiwr yn dathlu'i ben blwydd. A finnau yn edrych tuag at hanner cant, dyw RP heb gyrraedd ei ddeg ar hugain eto!

Cacen pen blwydd RPDaeth torf go lew ynghyd i Treehouse, ond roedd 'na syrpreis arall gan fod MJ wedi creu un o'i champeithiau cacennaidd ar gyfer yr achlysur, sef cacen gyda darlun o'r Morris Minor mae RP wrthi'n ei adfer. Mae'n bosib fod y canhwyllau ar y gacen yn fater iechyd a diogelwch, ond fel swyddog undeb dwi'n siŵr y buasai RP wedi bod yn ymwybodol o hynny ac wedi adrodd y peth i'r awdurdodau perthnasol.

Gyda llaw dylid nodi er ein bod wedi dathlu pen blwydd RP ddoe taw ddydd Gwener mae'r pen blwydd go iawn, ond mae RP yn cymryd gwyliau i fwynhau ei hun bryd hynny! Efallai y bydd yn cynnwys taith ar Reilffordd Gwili - achos sy'n agos iawn at galon RP.

Rhagor o luniau o ben blwydd RP.

Tagiau Technorati: | .