Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-26

Ymarfer y clarinet

Yn barod i ymarfer y clarinetMae'n rhaid fod MLJ o ddifrif gyda'r clarinet gan fy mod yn ei chlywed yn ymarfer yn gyson. Mae ei brwdfrydedd yn eithaf heintus. Cyn gwylio Bob Dylan henon a gwrando ar Beethoven roeddwn i wedi gwrando ar y concierto i'r clarinet gan Gerald Finizi (1901-1956) a hynny am fod MLJ wedi bod yn chwarae. Mae'r hanes am sut wnes i glywed y darn hwnnw yn ddiddorol. Roeddwn i'n teithio yn y car gyda DJP pan ddaeth y darn ar y radio a doedd yntau (ac mae e'n gwybod lot am gerddoriaeth) ddim yn medru adnabod y cyfansoddwr yn fwy na finnau. Fe gollon ni'r cyflwynydd yn dweud beth oedd y darn felly yr unig beth amdani oedd edrych ar y rhestr chwarae ar wefan yr orsaf radio - a chael taw Finzi oedd y gyfrifol. Ddiwrnod neu ddau yn ddiweddarach roeddwn i yn siop Cerdd Ystwyth a fe welais i recordiad o'r darn a'i brynu - mae'n ddarn hudolus iawn ac yn dda i wrando arno pan yn teimlo'n 'hen'! Rhybweth arall sy'n gwerth gwrando arno pan yn teimlo hen yw mam a'i merch yn canu deuawd ar y piano, a dyna'n union a wnes i neithiwr, diolch unwaith eto i MLJ ac i GC, wrth gwrs.



Tagiau Technorati: | .