Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-27

Bob Dylan eto

Dwi newydd wylio ail hanner ffilm Scorsese am Bob Dylan. Gwych! Dwi ddim yn gwybod ble i ddechrau canmol. Er nad oeddwn ond wyth mlwydd oed adeg y 'Summer of love' yn 1968 dwi'n dal i deimlo fel plentyn y chwechdegau. Dim ond cadarnhau hynny wnaeth y ffilm hon. Unwaith eto roedd hi'n wych gweld Bob Dylan ei hun yn siarad, ond hefyd Joan Baez, Allan Ginsberg, Pete Seeger, a phawb arall. Wedi'r ffilm ar BBC2 roedd BBC4 yn dangos detholiad o bobol eraill yn canu caneuon Bob Dylan: Manfred Mann, The Byrds, Joan Baez, Bryan Ferry. Yn eu plith roedd Lulu o ganol y saithdegau yn canu fersiwn o Mr Tambourine Man gyda dawnswyr o'i chwmpas mewn dillad hipi yn cario tambwrîn yr un. Roedd bron â bod mor chwerthinllyd â phetai Margaret Williams (henffych ein brenhines!) yn penderfynu gwneud fersiwn o un o ganeuon Datblygu, ond roedd yn werth i'w weld. Byddwn wrth fy modd petai'n gwneud rhaglen gyfan yn ei chyfres newydd fel teyrnged i Datblygu a Dave yn benodol. Ond breuddwyd wag yw honno dwi'n credu.

Tagiau Technorati: | .