Does dim angen i neb ddweud pa mor gyflym mae amser yn hedfan. Wedi penwythnos gwyllt mae wythnos y glas wedi dechrau yn Aberystwyth unwaith eto, ac mae'n hynny'n f'atgoffa i ei bod hi'n tynnu am ddeng mlynedd ar hugain ers i mi fynd drwy'r un profiad. Dwi'n teimlo'n hen. Felly, diolch byth am raglen ar y teledu heno sydd wedi gwneud imi deimlo ychydig bach yn iau - rhaglen ddogfen Martin Scorsese ar y canwr Bob Dylan, No direction home. Cadarnhaodd y rhaglen honno fod 'na ddarn bach ohona' i sydd yn dal am newid y byd. Pan fydda' i'n hapus gyda'r byd fel mae e fe ddylai hynny fod yn arwydd fy mod i wedi croesi'r trothwy i henaint go iawn, ond dyw e ddim wedi cyrraedd eto. Roedd gweld a chlywed pobol fel Joan Baez, Woody Guthrie a Pete Seeger yn fy nghyffroi, a neb yn fwy na Bob Dylan ein hun.
Cymaint fy mwynhad a chymaint y cyffro fel roedd hi'n rhaid imi wrando ar nawfed sumffoni Beethoven cyn mynd i'r gwely. Mae gen i recordiad byw gan y Wiener Philharmoniker o dan arweiniad Leonard Bernstein - cyfuniad i gyffroi unrhyw enaid prudd. Mae'n debyg ar ôl hyn'na i gyd na fyddai'n medru cysgu am oriau!
Tagiau Technorati: Bob Dylan | Beethoven | Cerddoriaeth | Henaint.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.