Roeddwn i'n bwriadu ymddwyn fel oedolyn ynglŷn â'r criced. Gêm yw criced a does gen i ddim diddordeb mewn criced fel gêm, felly sut yn y byd mawr y galla' i gael barn am y peth. Wedi imi ddweud hynny mae'n amlwg fod 'na 'ond' yn dod, a hwnnw'n 'ond' mawr iawn. Yr wythnos ddiwethaf roeddwn i'n digwydd bod yn Llundain y noson y collodd tîm pêl-droed Lloegr o 1-0 i dîm Gogledd Iwerddon, fe wnes i ymddwyn fel oedolyn y noson honno hefyd. OND ar ôl gweld a chlywed beth ddigwyddodd ddoe ac echddoe dwi'n 'difaru 'mod i heb fynd ar rampaets feddwol drwy'r brifddinas pan ges i'r cyfle! Mae'r cyfan wedi gwneud imi deimlo'n sâl. Mae hyn o'r Daily Telegraph yn ddigon cyfoglyd:
The Queen, who watched the match at Balmoral, wrote to the England captain, Michael Vaughan, saying: "My warmest congratulations to you, the England cricket team and all in the squad for the magnificent achievement of regaining the Ashes."Ond wedyn mynd i Downing Street i gwrdd â Tony Blair oedd y mwyaf cyfoglyd o'r cyfan. Mae'n rhaid fod rhyw droellwr yng Nghaerdydd yn ceisio ffordd i gael Rhodri Morgan yn agos at y tîm gan taw ein tîm ni oedd Lloegr hefyd mewn ffordd o siarad!
Mae'n rhyfedd fod sefyllfa felly yn dal i fodoli ar ôl i bawb chwerthin ar yr hen jôc "For Wales, see England" ers blynyddoedd - mae digwyddiadau fel hyn yn profi taw ar ein pennau ni mae pawb yn chwerthin o hyd am oddef i'r fath dwpdra fodoli.
Tagiau Technorati: Criced | Cymreictod.