Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-14

Capel cynulleidfaol yng nghanol Llundain

Capel Cynulleidfaol Orange Street, LlundainYn hytrach na cherdded o'r National Gallery i'r National Portrait Gallery y ffordd arferol drwy Sgwâr Trafalgar, dyma fynd ar hyd ffordd gefn a dod ar draws Orange Street Congregational Church. Efallai y buasai'n syniad da imi rybuddio unrhyw un sy'n mentro i wefan yr eglwys ei bod hi'n wahanol iawn i eglwysi annibynnol Cymru. Y peth mwyaf rhyfedd amdani yw ei bod yn rhan o fudiad o'r enw British-Israelism, neu, Anglo-Israelism. Nid wyf am gam-liwio'r mudiad, ond o'm dealltwriaeth i mae'n edrych ar broffwydoliaethau'r Beibl ac yn eu cymhwyso i Loegr/Prydain am eu bod yn credu fod brehiniaeth Lloegr yn disgyn yn uniongyrchol o frenhiniaeth Dafydd, a taw'r Saeson/Prydeinwyr yw disgynyddion llwythau coll Israel. Nawr dwi'n gwybod ei fod yn swnio'n od iawn, ond roedd y Cymry yn credu eu bod yn ddisgynyddion i Noah drwy Gomer, ac mae llygriad ar 'Gomeraeg' (iaith Gomer) oedd 'Cymraeg' - mae British-Israelism yn dal i wneud. Adeilad trawiadol, a dwi'n deall y faner nawr - roeddwn i'n meddwl ei bod rhywbeth i'w wneud â'r criced cyn imi fynd yn ddigon agos i ddarllen y posteri!

Rhagor o luniau o fy nydd Gwener yn Llundain.

Tagiau Technorati: .