Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-15

Rhywbeth i ffans Martin Geraint yn Aberystwyth

meithrin01

Yn yr Orendy dyma gwrdd â EHGJ, fel un o sgwrswyr mwyaf difyr dwi'n eu hadnabod fe lwyddodd i dynnu fy sylw at y ffaith fod Cylch Meithrin Aberystywth yn dathlu ei ben blwydd yn 45 oed ddydd Sadwrn gyda phresenoldeb Martin Geraint a fy mherswadio y dylem sôn am hyn ar Flog Dogfael. Er pa mor atyniadol y mae Martin Geraint yn edrych ar y posteri dwi'n ofni fy mod i yn mynd i fod yng nghynhadledd Plaid Cymru y diwrnod hwnnw!