Cinio yn Nhreletert
Erbyn inni ymweld â Blaenllyn a Newton roedd hi'n amser cinio ac fe aethon ni i chwilio am ginio ym mhentref Treletert, sy'n gorwedd ar y ffordd fawr o Abergwaun i Hwlffordd. Erbyn heddiw mae'r Saesneg wedi treiddio reit i ganol y pentref ond wrth ddewis lle i gael cinio fe lwyddon ni i gyfarfod â siaradwyr Cymraeg. Galwon ni yng ngwesty Brynawelon reit ar y ffordd fawr. Doedd dim byd yn foethus am y lle, ond roedd yn dod 'nôl ag atgofion i mi, oherwydd dyma un o'r canolfannau lle'r oedden ni'n mynd iddyn nhw ar nos Wener a nos Sadwrn pan roeddwn i yn nosbarth 6 Ysgol Preseli. Roedd partïon deunaw mlwydd oed yn cael eu cynnal yma a dawnsfeydd o bob math.
Yn y bar roedd rhyw bum neu chwech yn yfed ac yn bwyta - a phawb ond un y siarad Cymraeg. Doedd y wraig tu ôl i'r bardd ddim yn siarad Cymraeg na gweddill y staff yn ôl fel yr oeddwn i'n ei ddeall - rheiny oedd y bobol ifainc. Ond roedd y rhai hŷn a chanol oed yn siarad Cymraeg ac fe gawson ni air byr. Yn anffodus roedden nhw yn dewis eistedd yng nghanol mwg sigarets i fwyta eu cinio, tra'r oeddem ni wedi cilio i'r eithaf arall er mwyn osgoi'r mwg!
Tagiau Technorati: Bwyd | Treletert | Cymraeg.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.