Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-22

Taith i Ddyfed 2005-08-21 (2)

Capeli Blaenllyn a Noddfa Newton

Capel Blaenllyn, LlanedrinUn o'r rhesymau dros fentro i Sir Benfro oedd ymweld â chapeli Blaenllyn a Noddfa Newton am yr eilwaith. Roedd RO, finnau a chriw o gyfeillion wedi ymweld â'r capeli 'nôl yn hydref 2004 pan roeddem wedi dod i Sir Benfro i ddathlu canmlwyddiant geni y bardd Waldo Williams. Fe wnaethon ni ymweld â Blaenllyn a Noddfa Newton yn benodol oherwydd cysylltiad â Chapel Calfaria, Mynyddmechell. Bu un o feibion Calfaria, a chyfaill i deulu RO, yn weinidog ym Mlaenllyn a Noddfa Newton - fe'i calddwyd ym Mlaenllyn ac ef oedd yn gyfrifol am ail-godi Noddfa Newton. Mae'n anodd credu erbyn heddiw bod digon o fywyd wedi bod yn capeli hyn yn y cyfnod wedi'r rhyfel byd 1914-1918 i gynnal gweinidiog ac i fedru talu am godi capel newydd sbon.

Cofeb Evan Williams, Capel Noddfa Newton, CaslaiFe aethon ni 'nôl i'r capeli er mwyn tynnu eu lluniau ar gyfer cyfeillion a theulu RO yn bennaf, a chan taw ef sy'n gyrru roedd hi'n bleser bod yn gydymaith iddo. Saif Capel Noddfa Newton ar y ffordd o ogledd y sir i Hwlffordd a hynny nid nepell o'r hen ffin ieithyddol a oedd yn arfer rhannu'r sir yn ddwy, y landsker. Erbyn hyn mae mewnfudo a symudoledd wedi erydu'r ffin, ond mae'n dal i fod yno mewn enwau llefydd a pherci a thai. Am y ffin ei hunan roedd nifer o lefydd ag enwau mewn ffurfiau 'Cymraeg' a 'Saesneg'. Dwi'n dweud 'Cymraeg' a 'Saesneg' am fod enwau llefydd yn broblematig. Wrth deithio ar y rheilffordd rhwng Aberystwyth ac Amwythig mae'r syniad o beth yw enw Cymraeg a Saesneg yn cael ei herio. Yng ngorsaf y Drenewydd bydd yr arwydd yn lliwio Newtown yn las a'r Drenewydd yn wyrdd i ddangos fod un ffurf yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg. Ond ym Machynlleth caiff yr enw ei liwio yn las i ddangos ei fod yn Saesneg? Mae'r un peth yn wir am Aberystwyth!

Ond wrth dro yn ôl i ffin ieithyddol Sir Benfro dwi'n cofio hen bennill roedd mam yn arfer ei adrodd yn aml iawn:
Mae dwy ochr yn Shir Bemro,
Un i'r Sais ar llall i'r Cimro.
Melltith Babel wedi rhannu
Ir hen shir o'r pentigily.
Am lawer o'r amser heddiw yn Sir Benfro dwi am ddilyn y ffin ieithyddol ac edrych ar y wlad oedd o'i chwmpas.

Rhagor o luniau Capel Blaenllyn, Llanedrin.

Ble mae Capel Blaenllyn, Llanedrin.

Rhagor o luniau Capel Noddfa Newton, Cas-lai.

Ble mae Capel Noddfa Newton, Cas-lai.

Tagiau Technorati: | .