Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-23

Taith i Ddyfed 2005-08-21 (4)

Castell Llanhuadain

Castell LlanhuadainWedi cinio dyma deithio i'r dwyrain gan ddilyn mor agos y medren ni at ffin y Landsker. Yn diwedd dyma gyrraedd pentref tawel Llanhuadain. Ceir yr argraff wrth fynd drwy Llanhuadain nad oes rhyw lawer yn digwydd yma o un flwyddyn i'r llall. Ond bum can mlynedd yn ôl, cyn y diwygiad Protestannaidd ac chyn i esgobion Tyddewi symud eu prif swyddfeydd i Abergwili, ger Caerfyrddin, mae'n rhaid fod Llanhuadain yn bentref lle'r oedd digonedd o bethau'n digwydd. Oherwydd yma roedd esgobion Tyddewi yn treulio peth o'u hamser mewn castell gwych yn uchel uwchben afon Cleddau. O fan'ny fe allen nhw gadw llygad ar y wlad o gwmpas oedd yn cynnwys llawer o'u tiroedd hwy eu hunain. Erbyn hynny roedd yr esgobion wedi dod yn arglwyddi pwysig yn rheoli ystadau mawrion, ac roedden nhw'n ymddwyn yn gywir fel arglwyddi secwlar - yn hela, gwledda, ac yn noddi'r beirdd. Er mwyn gwneud hynny'n iawn roedd yn rhaid cael castell o'r cynllun diweddaraf ac yn y steil mwyaf modern a dyna a welir yma.

Afon Cleddau ger LlanhuadainRoedd Llanhuadain, neu Llawhaden yn y ffurf 'Saesneg' sy'n llawer mwy adnabyddus, yn lle llawn dirgelwch imi fel plentyn. Pentref Saesneg oedd, ac yw, Llanhuadain ei hun, ond o fewn milltir neu ddwy ceir dau bentref Cymraeg - Y Gelli a Bethesda - er bod yr iaith wedi colli llawer o dir yno bellach. A byddai fy nhad yn ymweld â ffermydd yn yr ardal ac wrth fynd gydag ef roeddwn yn ymwybodol iawn ei fod yn siarad Saesneg mewn rhai llefyd a Chymraeg mewn llefydd eraill. Doeddwn i ddim yn deall a phan fyddwn i'n holi pam yr ateb fyddai "Saeson sy'n byw ffor' hyn".

Roedd enw'r pentref hefyd yn ddirgelwch. 'Llawhaden' byddai fy nhad yn dweud bob amser, ond roedd mam-gu yn fwy tueddol o ddweud 'Llanhaiden' neu 'Llanaiden' neu hyd yn oedd 'Llanaidden'. Ar y pryd doeddwn i ddim yn deall hynny chwaith, Llawhaden oedd enw'r lle achos dyna oedd 'nhad yn ei ddweud, a dyna ni. Dwi'n gwybod bellach taw eglwys wedi'i chysegru ar enw Aidan neu Aeddan yw eglwys Llanhuadain a bod Llawhaden yn llygriad o'r enw Cymraeg - eto i gyd, does neb ond y selotiaid sy'n cael pleser o ddarllen Elwyn Davies yn ei ddefnyddio!

Rhagor o luniau o Gastell Llanhuadain.

Ble'n gywir mae Llanhuadain, neu, Llawhaden?

Tagiau Technorati: | | .