March Cobyn Cymreig, Aberaeron
Dwi bron â gorffen adrodd hanes teithiau'r haf, ond mae gen i un dydd Sul i sôn amdano eto. Gadawodd RO a finnau Aberystywth yn gynnar er mwyn ymweld ag ardaloedd yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Roedd y tywydd yn ardderchog wrth inni gychwyn ar ein taith, ond yn raddol fe wnaeth y niwl a'r glaw gau amdanom. Ond y peth cyntaf a welson ni oedd yn Aberaeron, sef cerflun o farch cobyn Cymreig gan David Mayer. Roedd wedi'i ddadorchuddio y Sul blaenorol mewn gŵyl fawr. Mae'r plac ar y cerflun ei hun yn dweud ei fod wedi'i osod yn Aberaeron er mwyn "dynodi'r ardal hon fel gwlad y Cobyn Cymreig".
Rhagor o luniau o'r march cobyn Cymreig, Aberaeron.
Tagiau Technorati: Cerfluniau | Ceffylau | Aberaeron.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.