

Nos Lun cefais wahoddiad caredig i swper gan fy nghymdogion GC ac IBJ. Roedd hi'n hyfryd derbyn gwahoddiad o'r fath yn y lle cyntaf, ond cefais llawer mwy na swper gyda nhw. Yn ddiddorol iawn bu MLJ yn esbonio sut beth yw hi i fod mewn ysgol gynradd yn 2005. Mae dros deng mlynedd ar hugain ers imi ymadael ag Ysgol Gynradd Mynachlog-ddu yn 1971 ac mae'n swnio fel petai pethau wedi newid yn fawr iawn ers hynny! Pan ddywedais i taw uchafbwynt yr wythnos i ni oedd gwrando ar raglen radio addysgol gan y BBC o'r enw
Sain, cerdd a chân lle'r oedden ni'n cyd-ganu gyda'r cyflwynwyr prin y gallai MLJ guddio'r cydymeimlad yn ei llygaid am fod wedi bod mor 'drist'. Wedi cinio cefais y fraint o gael fy niddanu gan MLJ yn bellach. Y tro roedd hi'n canu'r clarinent. Yr hyn a'm cyffrôdd i oedd fod merch cymharol fechan yn medru creu sŵn mor fawr. Yna fe gefais weld y clarinet yn ei holl ogoniant. Noson wrth fy modd. Diolch.
Tagiau Technorati:
Bwyd |
Ysgolion |
Cerddoriaeth.