Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-20

Eglwys Penbryn 2005-08-14

Buddugoliaeth S. Mihangel dros Satan, Eglwys Gadeiriol GwyntryCyn mynd yn ôl am Aberystwyth lle'r oeddwn i'n pregethu'r noson honno fe gefais hwyl ar RO a DML i ymweld ag Eglwys Penbryn. Dyma un o eglwysi hynotaf Ceredigion ynghyd â Llanddewibrefi, y Mwnt a Llanbadarn Fawr. Mae'r eglwys y sefyll ar ben bryn uwchben traeth Penbryn. Fel nifer fawr o eglwysi yn ein gwlad sy'n sefyll ar fryniau mae wedi'i chysegru ar enw S. Mihangel. Mihangel yw un o'r tri angel sy'n cael eu henwi yn y Beibl ac ef yw gorchfygwr Satan, neu'r Un drwg, neu'r cyhuddwr. Credir dyna'r rheswm fod ei enw yn cael ei roi ar eglwysi a adeiladwyd ar fryniau, gan fod hen grefydd Geltaidd yn canoli ar fryniau ac felly fel arwydd fod Cristnogaeth yn drech na'r hen grefydd honno fe adeiladwyd eglwysi yno a'i henwi ar ôl gorchfygwr yr Un drwg. Tu fas i borth Eglwys Gadeirol Gwyntry (newydd) mae 'na gerflun gan Jacob Epstein, Buddugoliaeth S. Mihangel dros Satan. Mae Epstein yn adnabyddus hefyd am ei gerflun o Grist sydd yn Eglwys Gadeiriol Lladaf.

Eglwys PenbrynMae eglwys Penbryn yn ffitio'r patrwm. Mae ar fryn ac mae'r safle yn un hynafol iawn, yn mynd yn ôl i oes gynharach na Christnogaeth. Ond mae Cristnogaeth wedi meddiannu'r safle iddynt hwy eu hunain bellach gydag eglwys fechan ond trawiadol ar y bryn yn uchel uwchben y traeth. Adeilad syml heb unrhyw rwysg na mawredd yw Eglwys Penbryn, ac yno mae 'na dawelwch i'w gael. Yr unig beth yr oedd yn anodd i'w werthfawrogi oedd nad oedd yr un gair o Gymraeg i'w weld yn yr eglwys o gwbl - roedd popeth yn Saesneg. Mae'n amlwg fod globaleiddio ieithyddol wedi taro hyd yn oedd yr Eglwys yng Nghymru fan hyn; er dwi'n ei chael hi'n anodd credu nad oes neb yn siarad Cymraeg yn yr ardal bellach - ond fi sydd siŵr o fod yn anghywir.

Ym mynwent Eglwys Penbryn y mae bedd yr awdures Allen Raine (1836-1908), neu Anne Adalisa Puddicombe, awdur Saesneg a aned yng Nghastellnewydd Emlyn a gor-wyres i Daniel Rowland, Llangeitho.

Rhagor o luniau o Eglwys Penbryn.

Yr holl luniau o'n hymweliad â de Ceredigion, 2005-08-14.

Ble mae Penbryn?

Tagiau Technorati: | | | .