Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-05

Siop Spar, Llansanffraid Glynceiriog

Siop Spar, Llansanffraid GlynceiriogDdydd Sadwrn roedd cydweithiwr wedi trefnu trip i Ddyffryn Ceiriog, ei ardal enedigol. Dathliad o'i gyfnod yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roeddwn i wedi gobeithio mynd ar y trip, ond oherwydd fy niffyg trefnusrwydd nid oeddwn wedi rhoi fy enw ar y rhestr yn ddigon buan i gael lle, ac felly cael fy ngadael ar ôl wnes i - roedd hi'n amlwg fod pawb a aeth ar y trip wedi mwynhau mas draw. Un a aeth ar y trip oedd Dr MWR, a diolch iddi fe ddaeth ag anrheg yn ôl i mi, sef llun o siop Spar Llansanffraid Glynceiriog. Mae'n amlwg fod y dwymyn Spar yn lledu - byddwch wyliadwrus fe allai eich taro chi nesaf! Diolch yn fawr Dr MWR. Dwi'n disgwyl am y siop Spar nesa nawr.

Ble mae Dyffryn Ceiriog? Cliciwch ar y map i weld.

DyffrynCeiriog

Tagiau Technorati: | .