Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-05

Nant-y-moch 2005-08-17 (3)

Cronfa Nant-y-moch

Argae Nant-y-mochTrwy Bonterwyd â ni, ond nid cyn i RO ddangos imi'r pentref bach lle mae yntau wedi bod yn canfasio'n ddygn a chyson dros Blaid Cymru mewn etholiad ar ôl etholiad. Ond roedd hi'n bryd bellach inni anelu am gronfa Nant-y-moch - rhan o Cynllun Trydan-dŵr Rheidol a agorwyd ddechrau'r 1960au. Mae'n gynllun enfawr sy'n cynhyrchu ei holl ynni o'r glaw sy'n bwrw ar fryniau a mynyddoedd gogledd Ceredigion. Ac mae digon o hwnnw fel arfer, er wrth inni ddynesu at Llyn Nant-y-moch roeddwn i'n medru gweld fod lefel y dŵr yn isel, ac yn edrych yn isel iawn mewn rhai mannau.

Gwartheg, Nant-y-mochWrth fynd tuag at yr argae roedd yn rhaid mynd trwy yrr o Wartheg yr Ucheldiroedd. Dyw nhw ddim yn debyg i'n gwartheg cartrefol di-gyrn Cymreig, yn hytrach maen nhw'n frîd sy'n cario'r cyrn mwyaf dwi wedi'u gweld ar dda ers blynyddoedd. Yn y car roeddwn i'n teimlo'n weddol o ddiogel, bron mor ddiogel ag yr oeddwn yn teimlo wrth fynd heibio i lewod Longleat slawer dydd. Yn ein dilyn roedd 'na ddau ar ei beiciau - busen i'n weddol siwr bod gyrru heibio i'r rhain wedi bod yn dipyn o her i'r nerfau!

Tagiau Technorati: | | .