Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-04

Nant-y-moch 2005-08-17 (2)

Capel YstumtuenOs ydych chi'n mynd i lefydd diarffordd man a man ichi wneud y gorau gallwch chi o hynny. Felly dyma demtio RO i dalu ymweliad ag Ystumtuen 'ar y ffordd' i Nant-y-moch. Unwaith eto dyma le nad oeddwn i wedi yno am yn agos i bum mlynedd ar hugain pan oeddwn yn y coleg. Dwi'n siwr nad oes rhyw lawer wedi newid, ac eto dwi'n gwybod fod y gymuned yn un gwbl wahanol i'r hyn oedd hi yn 1978. Fe welson ni un neu ddau o bobol o gwmpas y lle, ond chlywson ni'r un gair o Gymraeg.

Melin wynt, Fferm Wynt RheidolRoedd y golygfeydd unwaith eto yn drawiadol iawn. Ac yma eto roedd 'na fferm wynt fechan, ond holl bresennol, yn cuddio. Dwi wedi gweld fferm wynt ar ôl fferm wynt yn ystod y gwyliau - Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin - ond rhaid imi ddweud nad ydwyf yn eu casáu fel y grŵp Country Guardian, ond efallai bod angen ychydig mwy o feddwl ar ble maen nhw'n cael eu lleoli, felly dwi ddim cweit mor frwdfrydig â Yes2Wind chwaith. Ond yn ddiweddar fe fues i'n darllen rhifyn o'r New internationalist am y ffordd y mae ynni niwclear yn ennill ei ffodd yn ôl i sylw llywodraethau fel ffynhonnell rad o ynni yn wyneb ffynhonnellau eraill sy'n prysur dod i ben. Pan fydd hi'n ddewis rhwng fferm wynt yn fy iard gefn a gorsaf ynni niwclear, dwi'n gwybod yn iawn beth fuaswn i yn ei ddewis.

Rhagor o luniau o Ystumtuen.

Lluniau o fferm wynt Rheidol.

Tagiau Technorati: | | .