Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-15

Sgwrs gyda gwleidydd o Fflandrys

Heno fe gefais noson arbennig yng nghwmi Dirk De Cock, gwleidydd yn perthyn i blaid Spirit yn Fflandrys. Mae e'n siarad mewn cyfarfod ymylol am 12.30pm ddydd Iau (2005-09-15) yng Nghynhadledd Plaid Cymru yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.

Fel Fflandryoffil, ac mae digon o dystiolaeth i hynny ar y blog hwn, roedd yn gyfle gwych i ofyn yr holl gwestiynau hynny am wleidyddiaeth a bywyd yn Fflandrys nad oeddwn i wedi mentro gofyn i neb arall o'r blaen. Diolch SJT!

Tagiau Technorati: | | .