Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-24

Pam neges mewn Saesneg?

Dogfael yn ymuno yn y sbortEfallai i rai sylwi fod 'na neges Saesneg bellach ar faner y blog: "I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting." Peidied neb ag ofni, nid oes bwriad gan Flog Dogfael fynd yn ddwyieithog fel yr eisteddfod genedlaethol a phawb arall bellach. Ond mae'n ffordd hawdd o adael pawb sy'n popo miwn i Flog Dogfael o bellafoedd byd wybod beth sy'n digwydd. Dwi'n gwybod fy mod yn cymryd yn ganiatol fod Saesneg gan bawb - ond mae'n llawfer i gyfathrebu gyda llawer. Dwi'n gobeithio na fydd fe enw yn cael ei roi i'r eco-frwydwyr fel un sydd wedi gwerthu ei enaid ar farchnad rydd globaleiddio. Plîs peidwch 'in riporto i Ffred Ffransis!

Gyda llaw i neb sydd angen prawf pellach o fy egotistiaeth fe ddefnyddiais i'r ansoddair 'Celtic' gyda druid ar ôl clywed fod 'Celtic' yn apelio'n fwy na 'Welsh'. Dwi'n gobeithio bydd hyn yn dod â'r pwnteriaid i fy safle yn un ffrwd. Ac ar ôl dweud hynny man a man imi gyfaddef fy mod i bellach yn jwnci ystadegau - dwi'n gaeth iddyn nhw, fy page loads, fy unique visitors a fy returnig visitors - bob bore a phob nos mae'n rhaid imi eu gwirio. Os yw nhw'n isel am y dydd dwi'n isel fy ysbryd drwy'r dydd, ond pan fyddan nhw'n cyrraedd yr uchelfannau dwi ar ben fy nigon. Dwi am i bawb fy ngharu!!!

Tagiau Technorati: | | .