Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-24

Taith i Ddyfed 2005-08-21 (5)

Gardd a chanolfan Hywel Dda

Gardd a chanolfan Hywel Dda, Hendy-gwyn"Tri rhyw ddyn ysydd : brenin a breyr a bilan". Dwi ddim yn credu ein bod ni'n gweld hi'n union fel 'na heddiw, ond mae Cyfraith Hywel, neu'r Cyfreithiau Cymreig, yn un o'n trysorau cenedlaethol. Erbyn heddiw mae dealltwriaeth ysgolheigion wedi dangos fod llunio'r cyfreithiau yn llawer mwy cymhleth na'r traddodiad am Hywel Dda yn cynnull cynrychiolwyr yn Hendy-gwyn tua 945. Ond mae Hendy-gwyn yn falch o'r traddodiad ac aeth nifer o'r dref ati i greu cofeb genedlaethol deilwng i nodi'r peth. Y canlyniad yw Gardd a chanolfan Hywel Dda. Gwaith Peter Lord yw'r gofeb ac mae ei gwreiddoldeb i'w ryfeddu ato. Fel hyn mae'r wefan yn disgrifio'r peth
Mae'r gofeb, yn cynnwys chwech o erddi bach, gyda phob un ohonynt yn cynrychioli rhan arbennig o'r Gyfraith. Mae gan bob gardd goeden arbennig, sy'n adlewyrchu ystyr symbolaidd coed i bobloedd Celtaidd. Darluniwyd y cyfreithiau ar blaciau o lechi sydd wedi eu goliwio mewn enamel. Mae'r dyluniadau'n cynnwys gwaith celf megis gwydr ysgythrog, cerameg, gwaith haearn ac enamelau....

Mae'r [ganolfan] yn estyniad pellach o symboliaeth y gerddi ac fe'i cynlluniwyd ar yr un egwyddor â'r 'Tŷ Gwyn' a ddisgrifir yn llawysgrifau'r Oesoedd Canol. Ceir arddangosfa barhaol yn olrhain hanes Hywel a'r Gyfraith yn y ganolfan yn ogystal â gweithiau celf disgrifiadol o wydr, bric, cerameg a dur.
Dwi'n credu bod hynny'n dweud y cwbl! Mae'r profiad o ymweld â'r lle yn un gwefreiddiol - ond roedd gradd mewn Cymraeg lle'r oeddwn i wedi astudio testunau Cymraeg cyfraith Hywel o gymorth i ddeall pethau'n iawn!

Gardd a chanolfan Hywel Dda, Hendy-gwynBu'r gofeb yn destun gwrthdaro yn y dref am flynyddoedd. Roedd 'na garfan oedd yn gwrthwynebu arddangosiad mor amlwg o genedligrwydd Cymreig. Mae'r cyfreithiau'n dweud yn glir nad oedd y Gymru hanesyddol yn genedl annormal - roedd hi'n medru gwneud ei chyfreithiau ei hun, heb orfod troi at rai o'r tu fas a gofyn a oedd hawl gennym i wneud hynny ai peidio. Mae'n sefyllfa ni heddiw mor wahanol; lle mae gwleidyddion a ddylai wybod yn well, yn enwedig rhai'r Blaid Lafur, yn dweud fod disgwyl i ni yng Nghymru wneud ein cyfreithiau ein hunain yn rhywbeth twp a dwl a lle senedd Llundain yw gwneud hynnyh. Sôn am fod yn genedl annormal! Aeth y ddadl yn un gas iawn, ond erbyn hyn roedd hi'n edrych i mi fod pethau wedi tawelu yno. Yr hyn wnaeth fy nharo i oedd nad oedd y gofeb, sy'n un fawr ac yn agored drwy'r amser i bob pwrpas, wedi'i difwyno gan wrtisniaid lleol. Mae'n amlwg nad oes angen ASBOau yn Hendy-gwyn; wrth gwrs, fe all taw effaith ASBOau yn gweithio yn Hendy-gwyn yw hyn!

Rhagor o luniau o Ganolfan Hywel Dda, Hendy-gwyn.

Tagiau Technorati: | | | .