Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-24

Mas nos Wener

Gyda'n gilyddNos Wener fe aeth criw bach dethol ohonon ni mas am ddiod i'r Hen Orsaf, Aberystwyth. Roedd lifft RP yn mynd adre'n hwyr felly ei syniad ef oedd inni gwrdd lan gyda'r nos. Fi oedd y cyntaf yn y lle gyda RO yn gwmni. Dwi wedi darganfod diod newydd, sef siedr gellyg o Sweden sy'n cael ei wneud gan y cwmni Kopparbergs a dyna bues i'n yfed drwy'r nos. Roedd AVH yno a SW hefyd. Roedd SW wedi bod yn siopa cyn dod i'r tafarn. Roedd pawb mewn hwyliau da ac fe gawson ni noson ddifyr iawn yn siarad am y peth hyn a'r peth arall. Rodd pawb adref yn saff yn eu gwelyau erbyn 10.00pm. Dyna synhwyrol. Gyda llaw fe dreulion ni beth amser yn trafod beth yr ŷ ni yn mynd i wneud ar gyfer cinio Nadolig yn y gwaith - mae'r amser yn dod yn nes!



Tagiau Technorati: | .