Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-02

New Orleans yn diflannu dan y dŵr

Do, fe glywais i'r newyddion fod corwynt Katrina ar ei ffordd i daro Louisiana a chlywed wedyn ei fod wedi taro'r arfordir yno, gan gynnwys dinasoedd fel New Orleans, ond mae'n rhaid imi gyfaddef nad oeddwn wedi talu rhyw lawer o sylw i'r peth tan imi siarad gyda DJP ryw amser cinio (dydd Gwener diwethad dwi'n credu) ac mae e'n dweud wrtha i pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa mewn gwirionedd a bod peth trafod a fyddai'n rhaid anghofio am New Orleans yn gyfan gwbl a gadael y ddinas am byth. Wrth glywed hynny fe gefais dipyn o sioc. Nid ydych yn disgwyl i ddinas fawr yn y Taleithiau Unedig ddiflannu dros nos oherwydd gwynt a glaw. Ond mae'n dangos nad yw hi'n bosib i wladwriaeth fwyaf nerthol yn y byd i reoli'r tywydd. Wedi hyn synnwn i fawr na fydd George W. Bush yn mabwysiadu polisi o reoli'r gwynt hefyd. Fe ddarllenais i'r papurau heddiw gyda llawer o ddiddordeb i weld beth yn gywir oedd eu hesboniad hwy ar beth ddigwyddodd. Efallai ei bod yn ddisgwyliedig fod y papurau dwi'n ei darllen ar y Sul yr Observer a'r Independent on Sunday yn gweld y bai yn gorwedd gyda'r arlywydd am lyncu'r Federal Emergency Management Agency io mewn i'r Department of Homeland Security a gwario'r arian ar ymladd y rhyfel yn erbyn terfysgaeth. Mae'r stori i'w chael yn gryno yn yr Observer o dan y pennawd Flood took disaster agency's experts by surprise.

Mae'r holl hanes wedi peri sioc i mi. Mae gweld un o ddinasoedd 'mawr' y byd yn troi i fod yn debyg i'r set ar gyfer ffilm Mad Max o fewn diwrnod neu ddau i golli trydan, teledu a dŵr yn dangos pa mor ddiolchgar ddylswn i fod am Ddŵr Cymru, S4C a Scottish Power!

Wrth gwrs mae'r holl hanes yn ddigon i'ch digalonni gyda'r tlawd unwaith eto yn dioddef. Mae'n dangos unwaith eto sut mae'n amhosib ymddiried iechyd a diogelwch i'r sector preifat. Mae'n dangos unwaith eto ffolined y syniad y gall pobol ofalu amdanynt eu hunain - meddylfryd cwbl gyfalafol a chwbl Llafur Newydd. Gall pobol drefnu eu hiechyd, eu haddysg, eu pensiwn, eu tai, eu popeth eu hunain - gan gynnwys eu hamddiffynfa oddi wrth gorwyntoedd a digwyddiadau naturiol. Yn y Sunday telegraph roedd 'na atodiad am y digwyddiadau yn New Orleans - roedd yr ysgrifennu'n arbennig o dda, a'r hanesion oedd ync ael eu hadrodd yn ddigon i dorri calon y mwyaf didostur.
Bill Quigley, a lawyer, joined his nurse wife at the Loyola Hospital. He managed to call a local radio station and compared the scene to Haiti, one of the world's poorest countries, where he had previously worked. "Well, you know, I had always hoped that Haiti would become more like New Orleans," he told the station.

"But what's happened is, New Orleans has become more like Haiti here recently. You know, we don't have power. We don't have transportation. At this point, I think, at least the people in the hospital have some fresh water, but they're telling people you can't drink the water out of the taps. There's people wandering around the city without water, without transportation, without medical care. In many senses, we have about a million people in the New Orleans area who are experiencing what Haiti is like."
Un peth arall wnaeth fy nharo i oedd datganiad gan y Parchedig Jesse Jackson Jr. am y sefyllfa. Mae'n dangos clyfrwch rhethrefol yn ogystal â beirniadaeth wleidyddol drawiadol.
"A few, short years ago we saw in the Persian Gulf something that was described by this administration as shock and awe," said Mr. Jackson. "But here on the shores of the United States of America in the last 140 or so hours we have witnessed something shockingly awful. That is the lack of response, the quick response, from our government to those Americans who are suffering, who are dying."

Tagiau Technorati: | .