Nantyrarian
Eleni, fel yr ydw i wedi dweud droen mae'n rhaid, es i ddim yn bell i deithio yn ystod yr haf. Ond fe es i lefydd nad oeddwn i erioed wedi bod ynddyn nhw o'r blaen, neu os oeddwn i yr oedd hynny ungain mlynedd a mwy yn ôl. Un o'r llefydd hynny oedd ardal Nant-y-moch. Dwi'n cofi teithio i fyny i weld yr argae a'r gronfa pan roeddwn i yn y coleg, ond doeddwn i ddim wedi bod ers blynyddoedd. Felly pan gynigodd RO taw fan 'na fydden ni'n mynd roeddwn wrth fy modd. Mae'n anodd credu fod Aberystwyth mor agos oherwydd wrth inni ddilyn rhai o'r ffyrdd roedd gwareiddiad yn teimlo'n bell iawn i ffwrdd - os ydych chi'n fodlon derbyn galw Aberystwyth yn wareiddiad.
Ond cyn gweld Nant-y-moch yr oedd yn rhaid teithio yno, a hynny trwy gefn gwlad godidog Ceredigion. Y lle cyntaf inni oedi oedd Nantyrarian i ni gael gwledda ar y golgyfeydd godidog ac ar ein picnic a brynwyd yn Siop Co-op y Waun.
Wedyn dyma'r ddau ohonom yn troi mewn i'r Ganolfan sydd yn Nantyrarian. Roedd 'na rywbeth yno o'r blaen, ond mae'r lle wedi'i drawsnewid yn llwyr gan ganolfan newydd a agorwyd ddechrau'r haf. Tai bach, coffi, te a fordydd tu fas yn edrych dros y llyn a mwy o goed! Y siom fwyaf oedd mynd i'r caffi yno a chael nad oedd yr un oedd yn gweini yn medru siarad Cymraeg o gwbl, ac roedd hi'n ymddangos i mi nad oedd hi wedi cael unrhyw hyfforddiant o gwbwl ar sut i ymateb i siaradwyr Cymraeg yn holi am wasanaeth. Mae'n rhyfedd nad oedd neb wedi meddwl am hynny - dylai rhywun yng Ngheredigion nad yw'n siarad Cymraeg ond yn delio gyda'r cyhoedd fod â rhyw ffordd gwrtais o ddelio â sefyllfa fel 'na. Ond mae fy mrhofiad i yn dangos nad yw hynny'n wir. Pan nad oes y nesaf peth i ddim o gyrsiau galwedigaethol yn ein colegau addysg bellach yn cael eu dysgu yn Gymraeg efallai nad yw hynny'n syndod wedi'r cwbl, ond mae'n gondemniad ar ein sustem addysg.
Rhagor o luniau o Nantyrarian.
Tagiau Technorati: Nantyrarian | Cymraeg | Twristiaeth.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.