Nos Fercher fe ges i wneud yr hyn dwi'n ei fwynhau orau - eistedd o gwmpas yn hamddenol yn siarad am y peth hyn a'r peth arall a hynny mewn cwmni difyr. Mae CGw yn gadael gweithio yn Aberystwyth ac yn mynd yn ôl i Sir Benfro, a hynny yng nghanol prysurdeb neu absenoldebau'r haf, felly does dim rhyw lawer iawn o ffws swyddogol yn cael ei wneud gan fod hynny i ddod. Felly dyma pedwar ohonom yn dod at ein gilydd yn yr Orendy i nodi'r achlysur yn dawel a diseremoni - CGw, wrth gwrs, DJP, RhM a finnau. Roedd CGw yn gorfod aros yn hwyr yn Aberystwyth gan fod un o'r plant ar gwrs drama ac am i mam bigo rhyw bethau i fyny ar ddiwedd yr ymarfer tua 10.00pm.
Bu'r pedwar ohonom yn trafod popeth dan haul o raglenni teledu i bwy yn y teulu sy'n dysgu meibion i siafo, o ramadeg y frawddeg annormal yn Gymraeg i ysmygu mewn clybiau jazz. Does dim llawer o bobol y gallwch chi drafod y fath amrediad o bynciau gyda nhw ond mae CGw yn un o'r rheiny, felly mae ei gweld hi'n mynd yn golled fawr i fi sy'n hoff o drafod pethau felly, ond yn gaffaeliad i bobol ifainc Sir Benfro - gobeithio y byddan nhw yn ei gwerthfawrogi.
Rhagor o luniau o'r noson yn yr Orendy. Mae'r lluniau du a gwyn i fod i awgrymu soffistigedigrwydd clwb jazz neu rywbeth tebyg!
Tagiau Technorati: Dathliadau.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.