Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-05

Nant-y-moch 2005-08-17 (5)

Cofeb Hyddgen

Cofeb Brwydr Hyddgen, Nant-y-mochWrth yr argae yn Nant-y-moch ceir cofeb i un o frwydrau allweddol Rhyfel annibyniaeth Glyn Dŵr. Cofir y frwydr fel Brwydr Mynydd Hyddgen, ond saif Hyddgen ei hun yn bell i mewn yn y mynyddoedd, ond mae'n debyg taw dyma'r ffordd sy'n dod agosaf at y lle ac felly'n lle cyfleus ar gyfer cofeb. Roedd hi'n frwydr waedlyd a thyngedfenol - dyma'r fyddin gyntaf i herio Glyn Dŵr ac fe gollodd y Saeson a'u milwyr-hur o Fflandrys ddau gant o ddynion ar y diwrnod a rhoi buddugoliaeth i'r Cymry a pharhad i'n Rhyfel Annibyniaeth.

Tua'r amser yr es i i'r coleg yn Aberystwyth fe gododd y mudiad rhyfeddol ac echreiddig hwnnw, Cofiwn (the National Commemoration Association), gofeb i'r frwdyr yma ac fe'i dadorchuddiwyd gan Gwynfor Evans. Roedd yn lle yr oedd yn rhaid dod iddo. Ond mae'r gofeb wedi'i newid ers hynny gyda phlac Cofiwn wedi'i dynnu gan fandaliaid dwi'n cymryd, a phlac arall wedi'i osod yn ei le gydag arysgrif braidd yn amwys - "TO COMMEMORATE | OWAIN GLYNDŴR'S | VICTORY AT HYDDGEN | IN 1401. | I GOFIO'R SAWL A DDISGYNNODD | YN Y FRWYDR".

Tagiau Technorati: | | .