Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-05

Nant-y-moch 2005-08-17 (4)

Camgymeriadau yn y Gymraeg

Arwydd, Nant-y-mochMae unrhyw un sy'n darllen y blog hwn yn weddol oddefgar o gamgymeriadau mewn Cymraeg. Mae'n cael ei ysgrifennu'n un llif diddiwedd a does neb yn ail-ymweld â dim i'w gywiro. Ond pan mae'n dod i arwyddion dwi'n ofni fy mod i'n anoddefgar o gamgymeriadau, ond bydd yn rhaid imi ddysgu bod yn fwy amyneddgar wrth i'r nifer o arwyddion dwyieithog gynyddu a'r sgiliau i ddeall y Gymraeg yn iawn leihau. Dwi'n cofio un arwydd ger archfarchnad Safeway (Morrissons bellach) yn Aberystwyth yn datgan fod 'Deiriannau arian' yn y siop. Roeddwn wedi credu bod hyn yn air technegol newydd nad oeddwn yn ei ddeall fel 'cyfrifianell' neu 'echdynnu'. Yn y diwedd fe wnes i sylweddoli taw camgymeriad oedd y peth am 'Peiriannau arian'!

Ger argae Nant-y-moch mae'r cwmni E-ON UK sydd berchen y cynllun trydan-dŵr wedi gosod arwydd yn croesawu pawb i'r lle. Ond mae 'na wallau yn y Gymraeg o'r top i'r gwaelod bron.
Arwydd Nant-y-moch

Mae'n dechrau gan ddatgan Croes i Nant-Y-Moch
ac yna yn mynd yn ei flaen i sôn am Lloegr a Chymru, Parcia yw Parking, a Blwch dyfhwelyd yw Return box. Wedyn mae'r map yn dangos Mwynglawdd ariana Phlwm llwernog a Cym Rheidol dam. Canolfan wybodaeth y gedwig yw'r Forest information centre, ac wedi prynu trwydded bysgota mae 'na gais Darllenwch e'ch trwydded YN OFALUS. Ac os nad ydy hynny'n ddigon mae 'na arwyddion eraill o gwmpas y llyn yn eich rhybuddio Dim Pysgota Rhwng yr Argae a'r Arwyddian. Nawr dwi ddim yn ystyried fy hun yn "Gythruddiedig o Faes Lowri", ond mae hynny ychydig bach yn fwy na allaf i ei oddef hyd yn oed.

Rhagor o luniau o arwyddion Nant-y-moch.

Tagiau Technorati: | .