Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-06

Nant-y-moch 2005-08-17 (6)

Cwm Ceulan a Thŷ-nant
Llyn Nant-y-cagl, ger Nant-y-mochWedi dilyn glannau Llyn Nant-y-moch fe droesom tuag at lyn arall, Llyn Nantcagal. O fan'ny dyma gychwyn ar y daith i lawr i Tal-y-bont. Roedd y daith yn mynd â ni ar hyd cwm hyfryd, sef Cwm Ceulan. Roedd y golygfeydd yn odidog unwaith eto. Gallen ni weld o'r topiau i lawr at y Borth. Y tir yn las llachar o dan yr haul disglair. Roedd hi'n ddiwrnod perffaith ar gyfer teithio. Ac wrth inni ddisgwyn drwy'r cwm roedd y coed yn tyfu dros y ffordd i'n cysgodi oddi wrth yr haul ac i greu patrymau o oleuni o'n blaenau yn garped i'n tywys i ddirgelion hudolus y wlad. Roeddem dafliad carreg o bentref Tal-y-bont, ond fe allen ni fod wedi bod ym Mongolia Allanol ar gyfrif dieithriwch yr ardal imi.

Capel Tŷ-nantO fewn dim roeddem yn dringo i fyny cwm arall, Cwm Tŷ-nant y tro hwn. Roeddem ar ein ffordd i Bont-goch, ond roedd yn rhai troi oddi ar y ffordd honno i weld capel bach Tŷ-nant yr oedd RO wedi ymweld ag ef flynyddoedd yn ôl. Agor a chau'r glwyd oedd ar y ffordd, a dyna ni yno. Capel cynulleidfaol, wrth gwrs. Ond yn anffodus yr oedd ar glo ac felly dim ond o'r tu fas yr oedd hi'n bosib i'r ddau ohonom ryfeddu at ei fodolaeth.

Dyma leoliad Capel Tŷ-nant os am ymweld â'r lle.

Rhagor o luniau o Gwm Tŷ-bach.

Tagiau Technorati: | .