Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-13

Llundain 2005-09-09

Tŷ Fflandrys, LlundainDydd Gwener yr wythnos diwethaf fe ges i ddiwrnod i'r brenin yn Llundain. Diwrnod o wneud yn gywir fel yr oeddwn i am ei wneud. Pan yn Llundain fel arfer bydda i'n anelu am yr orielau. Ond y peth cyntaf yr oeddwn am ei wneud oedd sefyll y tu fas i Dŷ Fflandrys, sef Llysgenhadaeth Cymuned Fflemaidd Gwlad Belg yn Llundain. Doedd y lle ddim yn bell iawn o Oxford Street, ond fe gymerodd oesoedd imi ddod o hyd iddo. Mae'n rhaid fy mod yn gynnar oherwydd yr oedd y drysau ar gau a dim llawer o olwg agor arnyn nhw. Felly roedd yn rhad bodloni sefyll fan'na, ac roeddwn i'n ddigon hapus yn gwneud. Wedyn, ar ôl y profiad o gymuno â Fflandrys dyma fynd am yr orielau.

National Gallery, LlundainYr arddangosfa gyntaf imi fynd i'w gweld oedd un yn y National Gallery (does dim angen gofyn pa 'nation' yw'r 'national'!). Roeddwn i wedi clywed llawer o ganmol i arddangosfa Stubbs and the horse. Buasai rhai'n dweud y dylai'r teitl fod wedi dweud wrtha i mae arddangosfa i'r rhai oedd yn caru ceffylau oedd hon. Nawr does gen i ddim byd yn erbyn ceffylau; ond ar ôl bod o gwmpas yr oriel roeddwn i'n gwybod na fyddai'n iawn fy ngalw i yn garwr ceffylau. I ddweud y gwir roeddwn i wedi gwastraffu £8! Dylai'r ffaith nad oedd Pony Show Llanycefn na Gymkhana Clunderwen wedi denu fy niddordeb pan yn ifanc fod wedi bod yn rhybudd imi. Ond erbyn imi gofio hynny roedd hi'n rhy hwyr. Ond dyna ni, "byw a dysgu" fel maen nhw'n ei ddweud.

National Portrait Gallery, LlundainCefais lawer mwy o hwyl yn y National Portrait Gallery wrth fynd i weld yr arddangosfa The world's most photographed. Astudiaeth o sut y defnyddiodd deg o bobol neu y defnyddiwyd hwy gan ffotograffiaeth er mwyn ennill dylanwad, poblogrwydd a phŵer: James Dean, Greta Garbo, Audrey Hepburn, Marilyn Monroe, Elvis Presley, Muhammad Ali, Victoria, Mahatma Gandhi, John F Kennedy ac Adolf Hitler.

Tagiau Technorati: | | .