Dwi'n sylweddoli fy mod heb orffen hanes y diwrnod yr aethon ni i Nant-y-moch. Gyda'r nos es i, RO a DML allan am swper yn y Borth. Roeddwn i heb fod yno am fwyd ers blynyddoedd a doedd gen i yr un syniad i ble ddylen ni fynd. Wrth yrru drwy'r pentref fe wnaeth pincrwydd hyfryd y Victoria Inn ein taro, ac fe benderfynwyd galw yno am swper. Wrth gyrraedd y bar roedd 'na ddadl ar droed rhwng dyn ifanc a henwr ynglŷn â pha gêm bel-droed a ddylid ei dangos ar y teledu - Cymru v. Slofenia oherwydd ein Cymreictod, neu Denmarc v. Lloegr oherwydd fod y bar yn llawn ymwelwyr o dros Glawdd Offa. Dwi'n credu taw Cymru v. Slofenia a welais i ar y teledu, ond o gofio sgôr gêm Lloegr (colli 4-1) efallai y byddai hynny wedi bod yn dipyn o sbort.
Yng nghefn y dafarn roedd y bwyty. Doedd dim llawer o foethusrwydd am y lle, ond roedd yn lân ac fe gefais i bryd o fwyd blasus iawn. Roedd yn rhad hefyd. Roedd yn cael ei ddisgrifio fel cyri porc a phîn-afal. Dwi ddim yn siŵr a oedd hynny'n ddisgrifiad a oedd yn rhoi unrhyw help imi ddeall beth oedd y pryd, ond roedd yn flasus. Un peth wnaeth fy nharo i a phawb arall oedd ymgais y lle i gyfleu Cymreictod i'r ymwelwyr o bell. Y mwyaf diddorol oedd cyfres o bethau i'w rhoi o dan y platiau twym - Cymreictod, ie, ond pa fath o Gymreictod.
I weld yr holl luniau o'r daith i Nant-y-moch.
Tagiau Technorati: Cymreictod | Bwyd | Borth.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.