Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-13

Llundain eto - cyfarfod â SAJ

SAJ yn Llundain

Wash-house cafe, Westminster, LlundainMae cyfarfod gyda SAJ yn cyfoethogi pob ymweliad â Llundain. Mae hi'n gweithio ar hyn o bryd i dŷ cyhoeddi Eglwys Loegr, Church House Publishing, ac wrthi'n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yn esgobaeth Southwark. Yr unig ddrwg gyda manylion fel 'na yw eu bod nhw'n gwneud iddi swnio'n berson difrifol a seriws, tra mewn gwirionedd gallai dim fod yn bellach oddi wrth y gwir. Fel preswylydd y brifddinas mae hi'n adnabod y lle yn dda ac yn gwybod ble i fynd am fwyd! Y tro hwn fe aeth â fi ar draws y ffordd i gaffi Wash House yng nghanolfan gymunedol Abbey Community Centre dafliad carreg o'i swyddfa. Ar ôl clebran am y peth hyn a'r peth arall fe gefais glywed ganddi am y profiad o fyw yn Llundain yn dilyn y bomio fis Gorffennaf a'r effaith gafodd hynny ar deithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yr oedd hi'n sôn am bobol yn edrych o gwmpas i weld pwy oedd yn eistedd yn eu hymyl, ac yn dewis symud o'r herwydd ac wedyn y bobl hynny yn herio'r rhai oedd wedi symud oherwydd eu rhagfarn yn eu herbyn. Deufis yn ddiweddarach roedd pethau'n dechrau tawelu.

Tagiau Technorati: | | .