Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-28

Henffych i'r Frenhines!


I unrhyw un sydd heb sylwi fod Margaret Williams yn ôl ar y sgrin gyda chyfres newydd ar S4C ar nos Sadwrn mae'n rhaid imi ddatgan yn ddi-flewyn-dafod y dylai fod cywilydd arnoch chi. Pwy all fentro dweud dros yr wythnosau nesaf nad oes dim da ar y teledu nos Sadwrn? Ond mae un peth sy wedi dod i'r amlwg sydd yn fy mhoeni yn fawr ac yn profi unwaith eto nad ydyn ni'n genedl normal go iawn. Petai Margaret yn Saesnes, Americanes, Almaenes, Ffrances, Sbaenes, neu hyd yn oed yn Wyddeles, byddai 'na wefannau teyrnged iddi dros y lle i gyd. Ond wrth chwilio drwy Google am wefannau ffans does yr un yn ymddangos. Dyna gondemniad arnom ni fel gwlad a phobol. Dwi'n gobeitho'n fawr y bydd rhywun yn fodlon ateb yr her a chreu gwefan deyrnged fel y mae'n ei haeddu.

Tagiau Technorati: .