Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-28

Coleg Cerdd a Drama GWERINOL Cymru

TLlJ yn canu'r recorder o dan oruchwyliaeth ei athrawes gerdd, CaGYn ddiweddar dwi'n dechrau amau fod y Coleg Cerdd a Drama (ond heb yr ansoddair hyll hwnnw: 'brenhinol') wedi symud o Gaerdydd i Aberystwyth. Neithiwr fe gefais gyfle i fod yn dyst i ddosbarth meistr yn y recorder. Dwi ddim wedi gweld y fath frwdfrydedd dros gerddoriaeth erioed gan ddisgybl na meistr. I ddweud y gwir petai pobol yn cael eu dewis i chwarae yn y Berliner Philharmoniker ar sail eu brwdfrydedd does gen i ddim amheuaeth taw TLlJ fyddai prif unawdydd recorder y gerddorfa arbennig honno. Mae'n gyfaddefiad rhyfedd i'w wneud, ond dwi'n eddigeddu wrth TLlJ a'i recorder a MLJ a'i chlarinet. Chefais i mo'r cyfle i ddysgu canu dim byd pan yn ifanc a hynny oherwydd 'mod yn dod o'r dosbarth anghywir yn fy nhyb i. Fe welais i'r chwith am hynny ac fe fues i'n cario'r chwerwder hynny o gwmpas gennyf fi am flynyddoedd. Ond pan gefais fy swydd gyntaf ar ôl gadael coleg yn un ar hugain oed o'r pethau cyntaf wnes i ei wneud oedd prynu recorder plastig gwyn rhad i fi fy hunan a chyda help Dysgu canu'r recorder gan Stanley Jones (roedd 'na argraffiad cynt i'r rhai sy'n ymddiddori mewn ffeithiau o'r fath!) ac fe wnes i fynd ati i ddysgu sut i'w ganu. Fe wnes ei fwynhau'n fawr iawn - mae'r gallu i 'greu' cerddoriaeth yn ddawn mor werthfawr a mor rhyfeddol yn ei hanfod fel roedd hyd yn oed canu fy recorder plastig gwyn rhad i yn gwneud imi deimlo'n un â chân y cread. Ond yna fe ddaeth pethau eraill a mynd â fy sylw a dwi ddim wedi troi'n ôl at y recorder ers hynny. Ond ar ôl profi'r hyn a welais neithiwr dwi'n cael fy nhemtio i droi ato unwaith eto a chreu parti recorders lleol - byddai'n dda cael teimlo'n un â'r cread unwaith eto - beth amdani TLlJ a MLJ?

Tagiau Technorati: | | | .