
Dros yr haf mae'n rhaid fod RO a finnau wedi bod yn gyfrifol am losgi canran uchel iawn o danwydd ffosiliedig y byd wrth deithio i wahanol lefydd ar hyd a lled ein gwlad brydferth. Wrth feddwl 'nôl dros y peth dwi wedi bod yn dechrau teimlo'n euog o gofio effaith Corwynt Katrina gan ein bod ni, neu'n hytrach fy mod i, wedi cyfrannu at y twymo byd-eang a'r newidiadau hinsawdd a roes fod i'r corwynt dinistriol hwnnw! Un dydd Sul, Awst 14, ar ôl gwasanaeth y bore, fe aeth y ddau ohonom yng nghwmni DML lawr i ardal Llangrannog. Cawsom ginio yn nhafarn y
Crown, Llwndafydd cyn mynd ymlaen i
Gwmtudu.

Roeddwn i wedi bod yng Nghwmtudu droeon o'r blaen, ond yn y gaeaf a flynyddoedd maith yn ôl. Doedd dim wedi fy mharatoi ar gyfer yr hyn a welais. Roedd y lle yn orlawn o bobol a cheir. Prin fod lle i droi yno. Roedd pobman yn llawn pobol. Doedd dim yn rhyfedd yn hynny gan fod y traeth bach mewn lle hyfryd hyd yn oed ar ddiwrnod cymharol ddi-haul. Wrth gwrs mae Cwmtudu yn chwarae rhan bwysig yn hanes llenyddiaeth plant Cymru - yma y mae holl smyglwyr y nofelydd
T. Llew Jones yn dod â'u nwyddau i'r lan!

DML gafodd y syniad y dylem ymweld â'r Cilie, cartref
teulu'r Cilie wrth reswm. A chyn bo hir dyna lle'r oedd y tri ohonom yng nghar RO yn dringo'r rhiw serth o Gwmtudu ei hun i fferm y Cilie. Dod o hyd i'r lle ar y map wnaethon ni, doedd dim arwydd y tu fas oedd o unrhyw werth i'r sawl oedd yn teithio mewn car. Doedd dim llawer o ôl neb o gwmpas y lle a dim llawer o deimlad o groeso. Felly dyma neidio allan o'r car a thynnu'r lluniau ac i ffwrdd â ni unwaith eto. Ond y tro hwn yr oeddem yn chwilio am Gapel y Wig a'r fynwent lle roedd nifer o deulu'r Cilie wedi'u claddu. Unwaith eto DML oedd yn arwain y ffordd. Wedi inni gyrraedd y fynwent fe ddechreuais i rannu ym mrwdfrydedd DML; roedd rhywbeth yn arbennig iawn am y lle.

Roedd DML yn dadlau fod y fynwent yn haeddu gofal mudiad tebyg i Cadw neu'r Comisiwn Henebion, ac ar ôl troedio'i herwau sanctaidd roedd hi'n anodd iawn dadlau gydag ef.
Rhagor o luniau o Gwmtudu.Rhagor o luniau o'r Cilie.Rhagor o luniau o fynwent Capel y Wig.Ble mae Capel y Wig.Tagiau Technorati:
Cwmtudu |
Cilie.