Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-28

Dyfodol yr Eisteddfod

Mae'n edrych fel petai Llywodraeth y Cynulliad a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dod i gytundeb ar ariannu'r eisteddfod genedlaethol. Yn fy marn i does dim byd sydd wedi dangos diffyg Llywodraeth y Cynulliad yn fwy na'r dadlau ynglŷn â llai na £0.3m o bunnoedd ar gyfer ariannu dyfodol yr eisteddfod genedlaethol – swm sy'n cyfateb yn agos iawn i'r grant a gollodd yr eisteddfod gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. O fewn cyllideb Llywodraeth y Cynulliad nid yw £0.3m yn ddim bron â bod; ond mae'r eisteddfod wedi'i gorfodi i wneud pob math o driciau er mwyn derbyn yr arian fel rhyw gi yn perfformio i'w feistr. I ddweud y gwir y mae wedi'i hwpo yn agos iawn i ddiraddio ei hun yn y gobaith o gael yr arian sydd ei hangen arni. Mae dwy ffrwd wedi dod at ei gilydd i atal arian i'r eisteddfod - y rheiny sydd yn erbyn y Gymraeg (ac mae digon o'r rheiny yn dal i fod o gwmpas) a'r rhai sydd yn credu fod digon o arian preifat o gwmpas i gefnogi pethau fel yr eisteddfod.

Dim ond £0.3m, ond mae cymaint o ffys wedi'i wneud fel y gallech gredu ei fod yn £3m neu'n £13m neu hyd yn oed yn £30m.

Tagiau Technorati: | | .