Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-09-28

Dim angen Gwyddeleg i ymuno â'r Gardaí

Gwenu dan Fysiau: Dim angen Gwyddeleg i ymuno â'r Gardaí

Darllenais i flog Rhys Wynne Gwenu dan Fysiau ar y Blogiadur, blog o flogiau sy'n dod â nifer o ffrydiau o flogiau Cymraeg at ei gilydd i'w gwneud yn hawdd i gadw cyfri ar beth sy'n digwydd. Ac un o'r straeon difyr oedd hon am newidiadau i amodau ymuno â'r Gardaí, neu'r Heddlu, yn Iwerddon. Mae yn rhaid i ymgeiswyr i fod yn heddweision yn Iwerddon fod â thystysgrif gadael ysgol mewn Gwyddeleg a Saesneg, y bwriad yw gollwng hyn a dim ond gofyn am dystysgrif mewn Gwyddeleg neu Saesneg. Ffordd gyfrwys iawn o ollwng yr Wyddeleg a dim ond gofyn am Saesneg.

Meddai Rhys Wynne:
Mae Eurolang yn dweud bod newidiadau am fod, ble na fydd hi'n ofynol bellach i ymgesiwyr sydd eisiau ymuno â'r an Garda Síochána (heddlu) orfod gallu siarad Gywyddeleg. Eu rheswm yw er mwyn dennu mwy o heddweision o'r gymuned ethnig.
Mae hyn yn gwbwl warthus gan ei fod yn awgrymmu nad yw pobl o dras ethnig yn gallu dysgu'r iaith. Yma yng Nghymru hefyd mae'r language haters yn defnyddio presenoldeb poblogaeth ethnig fel esgus yn erbyn dwyieithrwydd, er mewn sawl achos mai'r pobl hyn yn aml-ieithog. Does ryfedd felly mae'r pobl sydd wedi lleisio anfodlonrwydd gyda'r syniad hyn yw iMeasc, sef grŵp o siaradwyr Gwyddelig sydd unai'n fewnfudwyr i'r wlad neu sydd o dras ethnig. Diddorol yw bodolaeth grŵp fel hyn hefyd.
Dwi'n cytuno'n llwyr fod grŵp fel iMeasc yn swnio'n ddiddorol ac efallai fod angen grŵp tebyg yma yng Nghymru er mwyn chwalu'r yr hen ragfarn am iaith a hiliaeth. Mae'n rhyfedd hefyd fod y llywodraeth yn gwneud hyn ond rhyw flwyddyn ers iddyn nhw basio deddf newydd yn rhoi rhyw fath o hawliau i siaradwyr Gwyddeleg am y tro cyntaf!

Tagiau Technorati: .