
Dwi heb orffen adrodd hanes y haf eto, er ei bod hi'n amlwg bellach fod yr hydref yn agosáu. Dros yr haf un o'r dyletswyddau mwyaf pleserus y cefais i oedd bod yn gwmni am y bore i blant fy nghymdogion. Roeddwn i'n edrych 'mlaen yn fawr i'r gwaith, ond yn ofidus a allwn ni ymdopi â'u bywiowgrwydd afieithus, a'u sŵn! Cefais fore wrth fy modd. Dwi ddim wedi gweld dau yn ymddwyn cystal. Roedden nhw wedi dod â thwr o DVDs gyda nhw i'w gwylio - yn y diwedd fe welson ni ddau,
Porc peis bach a
Spiderman. Roeddwn i'n gyfarwydd gyda
Porc peis bach ac fe wnes i fwynhau ail-edrych ar y ffilm wreiddiol yn fawr. Ond dwi'n ofni fy mod i'n rhy hen bellach i fwynhau rhywbeth fel
Spiderman. Diolch yn fawr am fore hyfryd! Bydd yn rhaid inni wneud yr un peth rywbryd eto.
Rhagor o luniau o'r bore. Tagiau Technorati:
Plant.