Dod wyneb yn wyneb â Wynford Vaughan Thomas yn Aberhosan
Wynford Vaughan Thomas oedd y dyn olaf yr oeddwn i wedi disgwyl i'w gwrdd ar y ffordd o Benffordd-las i Fachynleth. Ond fel mae'n digwydd Wynford Vaughan Thomas oedd y dyn wnes i gwrdd ag e ar y ffordd o Benffordd-las i Fachynlleth. Nid yn llythrennol, ond yn gerfiadol. Yn Aberhosan mae 'na gofeb i'r gŵr bonheddig hwn. Roedd y gofeb yno oherwydd dyna'r lle y gwasgarwyd ei lwch a hynny yn y fan a oedd yn ei farn yntau gyda'r olygfa fywaf godidog yng Nghymru os nad yr holl fyd. Byddai'n anodd iawn dadlau hyd yn oed gyda Wynford Vaughan Thomas ynglŷn â hynny!
Rhagor o luniau o gofeb Wynford Vaughan Thomas a'r olygfan yn Aberhosan.
Tagiau Technorati: Wynford Vaughan Thomas | Cofebau | Aberhosan.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.