
Roedd Wynford Vaughan Thomas yn rhywun oedd yn ennyn ymatebion chwyrn gan bobol. Gyda rhai yr oedd yn arwr oherwydd ei ddarlledu yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac oherwydd ei sylwebu ar ddigwyddiadau brenhinol o bwys - efallai yr enwocaf oll oedd ei waith ar y daith frenhinol i Awstralia yn 1954 pan gyhoeddwyd llyfr o'i sylwadau Royal Tour, 1953-4. Bu mor ffôl hefyd â chyhoeddi llyfr yn dathlu tywysogon Cymru, The princes of Wales. Efallai fod nifer yn ei gofio fel y gwrthbwynt i Gwyn Alf Williams yn y gyfres deledu ar hanes Cymru, The dragon has two tongues. Mae'n siŵr ei fod yn unigolyn cymhleth iawn fel y rhan fwyaf ohonom ni ond roedd yn cael ei weld fel dyn y sefydliad gan lawer (ac roedd digon o reswm dros wneud hynny) ac hefyd fel y math o Cymro yr oedd eraill yn ei ddymuno ei weld, yn un a oedd yn fodlon chwarae i'r stereoteip. Dyna sut y canfyddwn i'r dyn mae'n rhaid imi gyfaddef. Ond a oes 'na arwyddocad i'r ffaith nad yw'r disgrifiad "Gwladgarwr" yn arysgrif Gymraeg y gofeb yn ymddangos yn y fersiwn Saesneg? Wn i ddim.
Tagiau Technorati: Wynford Vaughan Thomas | Cofebau | Cymreictod.