Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-25

Yr Eisteddfod - Dydd Sul 2 (8)

Dylife

DylifeFe ddylai'r hen ddihareb ddweud "Gomrod o olygfeydd gwych a daga ymwelydd". Dwi'n gwybod bod hynny'n swnio'n beth dwl i'w ddweud, ond erbyn hyn roeddwn i'n dechrau pylu o dan bwysedd cynyddol yr holl olygfeydd gwych yr oeddwn wedi'u gweld heddiw ac yn ystod yr wythnos. Ac eto pan wrth sefyll uwchben ceunant Dylife roedd yn rhaid rhoi'r holl olygfeydd hynny heibio am ychydig er mwyn rhyfeddu ar yr olygfa newydd oedd o'n blaenau. Gall dim byd ail-greu'r profiad o fynd a sefyll yno drosoch eich hun felly dim ond cysgod gwael yw unrhyw ffotograff neu lun

Tagiau Technorati: | .