Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-24

Yr Eisteddfod - Dydd Sul 2 (7)

Penffordd-las

Capel y Bedyddwyr, Penffordd-lasMae rhyw hud yn perthyn i'r enw Penffordd-las, neu Staylittle, neu'r Stae. Bob tro y cylwaf yr enw mae rhywbeth yn cyniwair o'm mewn a dwi'n ôl yn fy mhlentyndodd. Bryd hynny roedd enw Penffordd-las yn gysylltiedig ag un o gapeli enwog y Bedyddwyr, neu o leia enwog i ni. Roedd un o ddiaconiaid Capel Bethel, Mynachlog-ddu, a oedd yn bregethwr cynorthwyol, yn mynd yno bregethu unwaith bob blwyddyn. Un o Benffordd-las oedd Falmai Puw Davies y beirniad llefaru yr oeddwn yn gyfarwydd â'i henw bryd hynny, ond bu'n flynyddoedd cyn imi ddod ar ei thraws go iawn pan yn llefaru gyda Chôr Llefaru'r Cŵps. Bu'r Dr MWR yn byw yma yn ei thro pan roedd ei thad yn bennaeth yr ysgol leol.

Tagiau Technorati: .