Roedd teithio ar hyd yr holl ffyrdd bach wedi ein drysu yn llwyr. Felly pan gyrhaeddon ni Bontdlangadfan doedd yr un o'r ddau ohonom ni yn rhy siŵr i ba gyfeiriad y dylen ni fynd ar y ffordd fawr oedd yn mynd heibio i'r pentref. Fe gytuno ni i droi i'r chwith, gan gymryd hynny fel y de gan fod yr o'n blaenau - pwy fuasai'n meddwl y gallai'r y sgiliau a enillwyd ar un o gyrsiau'r Urdd pan oeddwn i'n ddeng mlwydd oed fod yn ddefnyddiol ryw ddydd?
Yr arwydd nesaf inni ei weld oedd arwydd Penant. Doedd hynny ddim o unrhyw help i ni fell ymlaen รข ni yn y gobaith o weld ryw arwydd a fuasai'n rhoi mwy o gliw i ni lle'r oeddem ni. Yn y diwedd fe welson ni'r arwydd hwnnw, roeddem yn gwybod bellach ein bod ar y ffordd i Benffordd-las. Dyna'r allwedd wnaeth agor y drws inni, oherwydd yr oeddem yn gwybod bellach fod 'na ffordd adref trwy Ddylife a thros y mynyddoedd i Fachynlleth. Taith oedd yn haeddu'r diwrnod hyfryd o haf nad oedd heb eto ddod i ben.Tagiau Technorati: Teithio | Gwyliau | Penffordd-las.