Fy enw i ydy Dogfael a dwi'n gaeth i deithio ar hyd ffyrdd diarffordd
Mae mynd ar hyd ffyrdd diarffordd yn medru cael yr un effaith arnoch chi â chyffur cryf. Dyna ddigwyddodd i ni ar y ffordd 'nôl o'r eisteddfod. Fe ddaethon ni'n gaeth i ffyrdd bach. Doedd dim un ffordd yn rhy gul na'r un pentref yn rhy anghysbell ar ein cyfer. I ddweud y gwir fe aethon ni allan o'n ffordd (bwm, bwm!) i chwilio am y ffordd fwyaf cul a'r pentref mwyaf diarffordd. Wrth ddringo i Ddarowen roedden ni wedi gweld ambell i bentref neu bentrefyn oddi tanom - nawr roeddem am brofi'r pentrefi hynny. Felly dyma ddychwelyd i fynd ar hyd y ffordd gul oedd yn arwain i Dal-y-wern a Dol-yr-onnen. Ond doedd hynny ddim yn ddigon i ni, roedd hi'n amlwg fod y ffordd yn mynd yn bellach - ond i ble? Roeddem heb fap o gwbl, ac felly roedd yn rhaid inni ddilyn ble'r oedd ein greddfau yn ein harwain. A oedd hi'n teimlo fel ein bod yn teithio tua'r gogledd ai peidio?
Yn y diwedd fe ddaethom wyneb yn wyneb ag arwydd yn dweud 'Bont Dolgadfan'. Roedd rhaid inni ei ddilyn fel y plant gynt yn dilyn y pibydd brith. A dilyn a dilyn a dilyn oedd ein hanes. Trwy fforestydd tywyll am fillitir ar ôl milltir, ac yna goleuni Bwlch Glynmynydd, ond heb unrhyw syniad go iawn ble 'roedden ni. Un peth oedd yn amlwg oedd nad oeddem wedi cyrraedd Bont Dolgadfan eto, roedd mwy o deithio o'n blaenau. Er bod yr arwydd wedi dweud taw pedair milltir i ffwrdd yr oedd Bont Dolgadfan roedd y milltiroedd yn teimlo'n hir iawn. Mae'n rhaid fod rhywbeth yn yr awyr yn gwneud i hynny ddigywdd.
Tagiau Technorati: Teithio.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.