Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-23

Yr Eisteddfod - Dydd Sul 2 (4)

Ddim am weld y gwyliau'n dod i ben

AbercegirMae'n amlwg nad oedd RO yn fwy na finnau am weld y gwyliau'n dod i ben. Felly yn lle brysio yn ôl i Aberystwyth fe dreuliwyd y prynhawn yn dod i 'adnabod' yr ardal rhwng Mallwyd a Machynlleth yn well. Fy awgrym i oedd mynd i Darowen ac fe gytunodd RO yn ddigon rhwydd. Troi oddi ar y ffordd fawr ar ôl mynd heibio i Gwm Llinau a Glantwymyn. Y pentref cyntaf inni ddod iddo oedd Abercegir. Wrth fynd drwy'r pentref welson ni neb - pentref yn bell o sŵn y byd, yn bell o brysurwch y ffordd fawr. Ond roeddem yn mynd i fynd yn bellach fyth o sŵn y byd.

Golygfa ar y ffordd i DdarowenMynd trwy Abercegir er mwyn cyrraedd Darowen oeddem ni. Wedi gadael y pentref o fewn dim roeddem yn dringo a dringo a'r golygfeydd oddi tanom yn mynd yn fwy ac yn fwy gogoneddus. Acw fe welem Dal-y-wern yn cuddio yn y cwm coediog. Ond roedd ein llygaid ni yn edrych tuag i fyny wrth inni barhau i ddringo. Dwy filltir a hanner meddai'r arwydd, ond roedd yn teimlo'n llawer hirach wrth agosau at y ffurfafen.

O'r diwedd dyma gyrraedd pentref bach Darowen. Doedd dim arwydd o fywyd o gwbwl yn y lle. Roedd popeth yn dawel, dim plant, dim neb yn y tai. Yr oedd y pentref fel yn estyniad o fynwent eang yr eglwys!

Mynwent eglwys DarowenRhagor o luniau o ardal Darowen.

Tagiau Technorati: | | .