Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-23

Yr Eisteddfod - Dydd Sul 2 (3)

Hoe ym Mhorthmadog

Hen dwb hufen iâ Cadwalladers yng nghar ROWedi gyrru mor bell â Phorthmadog roedd hi'n bendant i'r gyrrwr gael hoe, a doedd dim ots gan y teithiwr chwaith. Ym Morthmadog mae un o gaffis y gwneuthurwyr hufen iâ Cadwaladers ac roedd mynd yno yn drawiadol iawn - Cymraeg i'w glywed a'i weld ym mhob man. Bwydlenni Cymraeg hyd yn oed. Roedd RO a finnau mewn perlewyg. Wedi coffi mae'n rhaid imi gyfaddef imi gael twb o hufen ia i'w fwyta yn y car!

Brigands Inn, MallwydErbyn hyn roedden ni wedi cytuno i gwrdd yn y Brigands Inn, Mallwyd am ginio. Er ei fod yn dafarn mawr roedd y lle yn llawn pan wnaethon ni gyrraedd yno am rhyw 1.00pm. Roedd DJP a DML yno'n disgwyl amdanon ni - doedd aros am hanner awr ym Mhorthmadog ddim yn help i gadw at yr amser. Ond doedd yr un o'r ddau yn cwyno gormod ac felly fe benderfynon ni aros yno am ginio. Bu'n rhaid disgwyl am ychydig, ond pan ddaeth roedd e'n ddigon blasus - cawl moron i ddechrau (ddim cystal â fy un i!), cinio dydd Sul o dwrci, ac yna cacen gaws i orffen. Fan hyn roedd hi'n amlwg fod y bobol oedd yn rhedeg y lle ddim yn siarad Cymraeg o gwbl, ond roedd rhai o'r gweision a'r morynion yn ddigon bodlon gwneud. Pwy fuasai'n meddwl y gallai'r Gymraeg fod ag arwyddocad dosbarth ddechrau'r unfed ganrif ar hugain!

Tagiau Technorati: | | .