Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-22

Yr Eisteddfod - Dydd Sul 2 (2)

Nid yw pethau ar ben nes bod y codwr canu'n stopo

Eglwys Berea Newydd, BangorRoeddwn i'n mynd adref gydag RO, a DML gyda DJP. Trefnwyd i gyfarfod am ginio yn ardal Machynlleth. Felly i ffwrdd â ni; ond ddim cweit, roedd 'na un capel ar ôl ym Mangor nad oeddem ni wedi'i weld. Felly cyn gadael roedd yn rhaid galw heibio i Ferea Newydd. Mae Berea Newydd yn adeilad newydd a godwyd yn sgil datblygiadau siopa, ac yn eglwys newydd a ffurfiwyd o uno holl eglwysi presbyteraidd Cymraeg y ddinas. Menter i'w gwerthfawrogi gan wybod ei bod wedi bod yn anodd i rai mae'n siŵr. Ond y neges sydd bwysicaf i'r Cristion, nid allanolion adeiladau ond perthynas bersonol gyda'r tragwyddol trwy'r dyn Crist Iesu.

Capel 'eglwysig' ei naws yn Llanwnda, GwyneddMae'n rhaid imi gyfaddef na chefais fy ysbrydoli gan yr allanolion lawer. Roedd yn edrych yn debyg i'r math o beth buasai'r Mormoniaid neu Dystion Jehofa wedi'i godi. Efallai fy mod i'n rhy hen ffasiwn - er dwi ddim yn credu fy mod i - ond mae'n well gen i rywbeth â mwy o bresenoldeb yn perthyn iddo. Fe basiwyd capel o'r fath yn Llandwrog - y capel mwyaf 'eglwysig' dwi'n gwybod amdano bron. Dwi ddim yn gweud fod angen inni ddilyn ffurfiau'r gorffennol, ond mae'n dda cael rhyw fath o gyswllt gyda'r hyn sy wedi mynd o'n blaenau, ond rhywbeth sy wedi datblygu allan o hynny. Gyda'r ffordd osgoi mae llawer o'r hen 'gerrig milltir' ar hyd y daith i Borthmadog wedi diflannu, ond diolch am y capel hwn. Enwau ar arwyddion yw Penygroes a Llanllyfni bellach - cynnydd mae'n siŵr!

Tagiau Technorati: | | .